Ty yn Lammas
Image caption Mae’r tai wedi eu hadeiladu’n bennaf o wellt a mwd.

Mae gwasanaeth tan ac achub y canolbarth a’r gorllewin yn ymchwilio, ar ol tân mewn ty crwn yng nghymuned Lammas yng Nglandwr ger Crymych yn Sir Benfro.

Cafodd y gwasnaethau brys eu galw brynhawn Llun, ac ar un adeg fe fu 22 o ddiffoddwyr yn ymladd y tân a barodd dros chwech awr.

Roedd y ty yn un o naw ar y safle sydd wedi cael eu codi er mwyn annog bywydau cynaladwy.

Chafodd neb eu hanafu, ond mae’r ty wedi ei ddinistrio’n llwyr.

Image caption Cafodd criwiau o Grymych, Aberteifi, Hendy Gwyn ar Dâf ac Arberth eu galw i gynorthwyo.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here