The fire at ForestfachImage copyright @therunbore/Twitter

Mae deg o griwiau yn ceisio rheoli tân mewn iard sgrap yn ardal Abertawe.

Dechreuodd y tân ar safle M & R Commercials yn Fforestfach tua 06:00 fore Llun.

Mae dros 70 o ddiffoddwyr ar y safle sy’n cynnwys teiars, silindrau.

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi cynghori pobl i gadw eu drysau a ffenestri wedi cau, ac i gadw draw o’r safle.

Mae’r digwyddiad hefyd wedi effeithio ar wasanaethau trên rhwng Abertawe a Llanelli.

Dywed Trenau Arriva Cymru y bod yna oedi i wasanaethau Gŵyl y Banc a bod yna wasanaeth bws yn cludo teithwyr rhwng Abertawe a Llanelli.

Mae ffyrdd o amgylch Stad Ddiwydiannol Fforestfach wedi eu cau ac mae’r heddlu yn cynghori gyrwyr i osgoi’r ardal.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here