Rhai o gadeiriau Hedd Wyn, gyda Chadair Ddu Penbedw 1917 ar y ddeImage copyright Parc Cenedlaethol Eryri
Image caption Rhai o gadeiriau Hedd Wyn, gyda Chadair Ddu Penbedw 1917 ar y dde

Bydd nodi union ganmlwyddiant Y Gadair Ddu ym Mhenbedw dros y Sul yn benllanw i’r sylw sydd wedi bod gydol y flwyddyn, meddai’r Parchedig D. Ben Rees.

Ar 6 Medi 1917, daeth y cyhoeddiad mai gwaith Fleur De Lys oedd yn deilwng o gadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Ond pan alwyd ar y bardd i sefyll, ni chododd neb.

Wedi i’r utgorn ganu dair gwaith, fe gyhoeddodd yr Archdderwydd Dyfed fod y bardd buddugol – Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn – wedi cael ei ladd ym Mrwydr Passchendaele ar ddydd olaf Gorffennaf.

Er mwyn nodi union ganrif ers Eisteddfod y Gadair Ddu bydd dau ddiwrnod o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ym Mhenbedw dros y penwythnos.

Yn ôl y Parchedig D. Ben Rees, sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r trefniadau, un o uchafbwyntiau’r ŵyl fydd cyflwyno cadair gwerth £10,000 am ysgrifennu cerdd ar Hedd Wyn.

Image copyright Prifysgol Thomas More Mechelen
Image caption Dyma’r gadair y bydd y bardd buddugol yn ei chipio

Dywedodd y Parchedig Rees wrth BBC Cymru Fyw: “Alla’ i ddweud wrthoch chi y bydd ‘na gadeirio – ac mae’r gadair sy’n rhoddedig gan Gymdeithas Hedd Wyn, Fflandrys ac wedi cael ei gwneud gan fechgyn ifanc o Goleg Addysg Bellach Mechelen yn Fflandrys yn werth £10,000.

“Fel ry’ch chi’n cofio, cafodd cadair wreiddiol 1917 ei llunio gan Eugeen Vanfleteren – saer a gafodd ei eni ym Mechelen ac oedd wedi dianc i Benbedw rhag y rhyfel.

“Mae ‘na hefyd ddwy goron i feirdd ifanc yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae’r ddwy wedi cael eu gwneud gan y gof John Price o Fachynlleth, sef y gŵr a luniodd coron y Brifwyl eleni.”

Bydd hefyd nifer o ddarlithoedd yn cael eu traddodi yn ystod y deuddydd – yn eu plith darlith ar Hedd Wyn gan yr Athro Peredur Lynch, un arall ar D. Lloyd George gan y darlledwr Huw Edwards, darlith ar Gymry Penbedw gan D. Ben Rees ac un arall ar y ffoaduriaid o Wlad Belg gan yr Athro Emeritws Robert Lee.

Image caption Bydd y gofeb newydd yn nodi enw Hedd Wyn

“Mi fydd ‘na hefyd ddigon o ganu wrth i ddau gyngerdd gael eu cynnal nos Sadwrn,” meddai D. Ben Rees.

“Fore Sul bydd oedfa yng nghapel Seion, Penbedw a b’nawn Sul cymanfa ganu o dan arweiniad Alwyn Humphreys gyda Chôr Orffews y Rhos.

“Uchafbwynt arall fydd dadorchuddio cofeb ym Mharc Penbedw i gofio am y milwyr a fu farw o Gymru ac o ardal Penbedw – un enw amlwg a fydd arni fydd enw Hedd Wyn. Mae ‘na gofeb ym Mhenbedw yn barod ond dyw enw Hedd Wyn ddim ar honno.”

Penwythnos i’w gofio

Ychwanegodd y Parchedig D. Ben Rees: “Mae hi wedi bod yn dipyn o waith i drefnu’r ŵyl – mae nifer y Cymry Cymraeg yn y rhan yma o’r byd wedi disgyn yn arw a byddai’n deg dweud ei bod wedi bod yn eitha’ anodd i danio dychymyg ar adegau.

“Ond ry’n yn falch sobor o Bwyllgor Etifeddiaeth Glannau Mersi a phwyllgor y Gadair Ddu, mae Cyngor Cilgwri hefyd wedi bod yn gefnogol a Pharc Cenedlaethol Eryri a bu’n dda cael grant y loteri i ddarparu cyrsiau a thaflenni i addysgu pobl leol am yr hanes, ac mae’r arddangosfa ym Mhenbedw wedi bod yn werth chweil.

“Dwi’n siŵr y bydd hi’n benwythnos i’w gofio – ry’n yn gobeithio denu oddeutu 300 o bobl – falle mwy.”

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here