llygredd
Image caption Cafodd rhwystrau eu gosod i atal llygredd rhag lledu yn ardal Nantycaws, Sir Gâr, yn 2016

Cafodd bron i 3,000 o achosion llygredd eu cofnodi yn afonydd Cymru dros gyfnod o dair blynedd, ond dim ond 38 o’r rheiny gafodd eu herlyn yn y llysoedd.

Mae’r ystadegau yn dangos i filoedd o bysgod farw o ganlyniad i’r llygredd – gyda 17% o’r digwyddiadau yn cael eu hachosi gan gwmnïau dŵr a 15% o ollyngiadau o weithgareddau amaethyddol.

Cafodd y ffigyrau ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr 2013 a Chwefror 2016 eu rhyddhau gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ôl cais rhyddid gwybodaeth.

Mae Afonydd Cymru wedi galw am well rheoleiddio, tra bod CNC yn dweud bod y mwyafrif o ddigwyddiadau’n rhai bychan oedd ddim angen eu herlyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod eisiau gweithio gyda’r diwydiant i leihau nifer yr achosion.

Image copyright Steffan Jones
Image caption Cafodd yr holl eog a brithyll môr ar hyd dwy filltir o Afon Teifi eu lladd wedi llygredd yn 2016

Afon Llwchwr yn Sir Gaerfyrddin wnaeth gofnodi’r nifer mwyaf o achosion llygredd, gyda 191.

Afon Ebw yn Sirhywi oedd â’r ail nifer uchaf o achosion gyda 145, tra bod 121 wedi eu cofnodi yn Afon Ogwr ym Mro Morgannwg.

Cafodd camau gorfodaeth eu cymryd mewn 1,195 allan o’r 2,706 o achosion o lygredd.

Ond dywedodd llefarydd nad oedd modd cymryd camau gorfodaeth yn rhan fwyaf o achosion oherwydd prinder tystiolaeth.

O ran yr achosion eraill, cafodd cyngor neu rybudd ffurfiol ei roi er mwyn atal digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.

38 o’r achosion gafodd eu herlyn yn y llysoedd.

Image copyright Getty Images
Image caption Gwastraff yw un o’r achosion mwyaf cyffredin o lygredd mewn afonydd

Dywedodd llefarydd ar ran CNC y byddan nhw’n cymryd camau yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am lygredd os oes modd dod o hyd i’r ffynhonnell.

Ychwanegodd y byddai’r math o gamau yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr achos.

“Nid erlyn yn y llysoedd yw’r unig fesur sydd ar gael, ac mewn rhai achosion mae’r dewis gan y sawl sy’n gyfrifol i dalu iawndal ac i wneud addewid i ddatrys y broblem, ac o bosib i wella’r amgylchedd wnaeth ddioddef yn sgil y llygredd,” meddai.

“Mewn rhai achosion fe allai hyn olygu gwell canlyniad i’r amgylchedd na fyddai’n bosib drwy erlyn.”

‘Mater o arian’

Yn ôl prif weithredwr Afonydd Cymru, Dr Stephen Marsh-Smith, mae nifer y pysgod wedi gostwng yn ystod y pum mlynedd diwethaf o ganlyniad uniongyrchol i lygredd.

Mae’n galw am well rheoleiddio ar y diwydiant amaeth er mwyn lleihau’r slyri sy’n gollwng i afonydd, a lleihau achosion o lygru anghyfreithlon.

Dywedodd bod angen trefn tebycach i Loegr, ble “mae’r asiantaeth amgylchedd yno’n ceisio rhagweld lle y gall llygredd ddigwydd, ac wedyn yn cydweithio gyda diwydiant er mwy lleihau ei effaith”.

“Mae’n fater o arian ar ddiwedd y dydd, ac os ydym am i CNC wneud rhywbeth am y peth, mae angen i chi fod yn barod i dalu ychydig o arian.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynllun i fynd i’r afael â’r broblem o lygredd dŵr.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i ganfod rhagor o ffynonellau incwm,” meddai.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here