Er gwaetha’r tywydd gwlyb mae miloedd wedi mwynhau’r Gŵyl Rhif 6 unwaith eto eleni. Dyma rai o uchafbwyntiau’r tridiau ym Mhortmeirion. Ffotograffydd Cymru Fyw ydy Iolo Penri o Gaernarfon:

Image caption Roedd angen rhain!
Image caption Band Pres Llareggub sy’n tywys y ceffyl gwyn trwy lwybrau cul Portmeirion
Image caption Mae perfformiad gan gôr y Brythoniaid yn un o atyniadau blynyddol Gŵyl Rhif 6
Image caption Dydy’r tywydd ddim wedi taflu dŵr oer ar ysbryd yr ŵyl
Image caption Beth yw dy enw di tybed?
Image caption Mae Elan Evans yn prysur ennill ei phlwy fel un o DJs gorau Cymru.
Image caption Gin-digedig!
Image caption Perfformiad acrobataidd gan Heliosphere.
Image caption Does dim angen edrych y tu hwnt i Gymru i gael mwynhau gŵyl safonol
Image caption Torf fawr ar gyfer perfformiad Bloc Party
Image caption Roedd ‘na giw mawr i weld y cyn bencampwr snwcer Steve Davis yn troelli disgiau. Diddorol ‘de?
Image caption Ble ‘dan i dudwch?
Image caption Chroma, un o artistiaid prosiect Gorwelion eleni, yn cael y cyfle i berfformio
Image caption Pulp-ud pop Jarvis Cocker
Image caption Gofalus!!
Image caption Di rhain yn pigo? Yn sicr bydd ganddyn nhw atgofion mêl-ys am y penwythnos
Image caption Fuodd yr awdur Irvine Welsh yn edmygu’r trenau bach yn steshion Porthmadog ar ei ffordd i’r ŵyl?
Image caption Does neb wedi dweud wrth Nel a Nanw nad ydy hi yn dywydd hufen iâ
Image caption Charlotte Church ar y llwyfan

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here