Mae’n ddiwedd cyfnod ym mhentref Gwauncaegurwen.

Ar ôl 112 o flynyddoedd o lenwi boliau trigolion Dyffryn Aman a Chwm Tawe, mae caffi Eidalaidd enwog Cresci’s wedi cau ei ddrws am y tro olaf.

Mae’n batrwm cyson ar draws Cymru. Ar un adeg, roedd dros 300 o gaffis Eidalaidd yn gwasanaethu cymoedd y de, ond dim ond llond llaw o’r rhai gwreiddiol sydd ar ôl heddiw.

O ddiwedd y 19G tan ganol yr 20G daeth miloedd o Eidalwyr i Gymru i agor caffis, parlyrau hufen iâ a siopau sglodion. Ac ymhell cyn dyddiau Nero, Starbucks a Costa, roedd enwau fel Sidoli, Gambarini, Conti a Bracchi yn enwog ar draws ardaloedd diwydiannol y de.

Dyma gofnod, mewn lluniau, o’r bywyd a’r cymeriadau sy’n cadw’r traddodiad hwnnw yn fyw yn rhai o gaffis gwreiddiol Eidalaidd de Cymru.


Station Cafe, Treorci
Image caption Fe agorwyd Station Cafe yn 1935 yn Nhreorci, Cwm Rhondda gan Yr Eidalwr Joe Balestrazzi.
Station Cafe, Treorci
Image caption Domenico Balestrazzi, neu ‘Dom’, sydd yn rhedeg Station Cafe heddiw. Fe gymrodd yr awenau gan ei dad, Joe, yn 1965.
Station Cafe, Treorci
Image caption Ymgolli yn newyddion y dydd yn Station Cafe.
Station Cafe, Treorci
Image caption ‘British by birth, Welsh by the grace of God’ – y neges balch ar y belt.
Carpanini's, Treorci
Image caption Roedd nifer o’r caffis Eidalaidd gwreiddiol yn gwerthu amrywiaeth o fwyd, diod, sigaréts, losin a hufen iâ. Mae’r traddodiad yma’n parhau yng nghaffi Carpanini’s yn Nhreorci.
Carpanini's, Treorci
Image caption Mae dodrefn a decor trawiadol Carpanini’s yn dod o’r 1960au. Cafodd y caffi ei sefydlu gan Ernesto Carpanini yn 1947 ac mae’n cael ei redeg heddiw gan ei blant – Irene, Pietro, Gianmarco a Francesco.
Contis, Tonypandy
Image caption Mae siop sglodion Conti’s, Tonypandy yn y teulu ers 1955, a Louis Conti yw’r ail genhedlaeth i’w rhedeg.
Contis, Tonypandy
Image caption Y cegin gefn yn Conti’s. Yn ôl Louis Conti, mae llai a llai o’r genhedlaeth iau yn dewis rhedeg y caffis teuluol Eidalaidd erbyn hyn.
Forte's, Abertawe
Image caption Ar un adeg, roedd ‘na dri sefydliad Forte’s yn Abertawe, ond erbyn hyn y parlwr hufen iâ yn y Mwmbwls yw’r unig un sydd ar ôl – wedi’i leoli mewn hen garej bren yn edrych allan i’r môr.
Kardomah, Abertawe
Image caption Cafodd caffi Kardomah yn Abertawe ei fomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe ail-agorodd y caffi yn 1957 mewn lleoliad newydd, a Marcus Luporini yw’r rheolwr heddiw.
Kardomah, Abertawe
Image caption Mae’r caffi Kardomah gwreiddiol yn enwog oherwydd y ‘Kardomah Gang’ – criw o ffrindiau oedd yn cwrdd yno’n rheolaidd. Roedd Dylan Thomas, Alfred Janes a Vernon Watkins yn rhan o’r ‘gang’.
Kardomah, Abertawe
Image caption Mae’r addurniadau’n dod o 1957, o’r cyfnod pan gafodd y caffi ei ail-agor yn ei leoliad presennol ar Stryd Portland.
Kardomah, Abertawe
Image caption “Ges i fy magu yn ymweld â’r Kardomah”. Mae nifer o’r cwsmeriaid yn mwynhau awyrgylch cyfarwydd a chysurus yr hen gaffis Eidalaidd.
Segadellis, Creunant
Image caption “Fi yw’r genhedlaeth olaf” – Stella Jenkins sy’n rhedeg siop losin Segadelli’s yn Y Creunant, Cwm Dulais. Fe agorodd ei thad, Ernesto Segadelli, y siop yn 1921.
Prince's, Pontypridd
Image caption Gobaith i’r dyfodol. Mae’r genhedlaeth ifanc yn cymryd yr awenau yng nghaffi Prince’s ym Mhontypridd. Dyma William Gambarini, aelod o’r drydedd genhedlaeth i redeg y caffi.
Prince's, Pontypridd
Image caption Cafodd Prince’s ei agor yn 1948 gan daid William, Dominic Gambarini a’i wraig Glenys, ac mae’r Art Deco gwreiddiol wedi ei gadw fel yr oedd.
Prince's, Pontypridd
Image caption Mae’r ‘hatch’ hen ffasiwn rhwng y gegin a’r lle bwyd hefyd wedi ei gadw.
Prince's, Pontypridd
Image caption Mae’r potyn dŵr poeth copr traddodiadol yn cael lle amlwg yng nghanol y caffi.
Prince's, Pontypridd
Image caption Mae ymweld â chaffi prysur Prince’s yn achlysur pwysig i nifer o’r cwsmeriaid ffyddlon.

Mwy o orielau lluniau ar Cymru Fyw:

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here