Chris Froome a Geraint ThomasImage copyright Getty Images
Image caption Geraint Thomas (ar y dde) yw’r Cymro cyntaf i wisgo’r crys melyn yn y Tour de France

Mae’r Cymro cyntaf i wisgo’r crys melyn yn y Tour de France wedi cael ei orfodi i adael y ras wedi iddo gael damwain yng nghymal naw.

Yn ôl adroddiadau disgynnodd Thomas o dîm Sky oddi ar ei feic wrth ddod lawr disgyniad serth.

Ddoe yn dilyn yr wythfed cymal roedd Geraint Thomas yn parhau i fod yn yr ail safle.

‘Ofnau ei fod wedi torri pont ei ysgwydd’

Yn ôl gwefan Tour de France mae ‘na ofnau fod Geraint Thomas wedi torri pont ei ysgwydd.

Thomas enillodd gymal cyntaf y Tour De France eleni ac fe gadwodd y crys melyn tan i Froome ei gipio oddi arno ar ôl cymal pump.

Digwyddodd y ddamwain ar ddisgyniad Col de la Biche – ychydig yn llai na hanner ffordd o’r cymal mynyddig rhwng Nantua a Chambery. Fe geisiodd e barhau â’i daith ond roedd hynny yn amhosib.

Dyma bedwerydd cwymp Thomas yn y Tour – fe gwympodd e hefyd yn yr ail gymal ac yng nghymalau pedwar ac wyth.

Fe gafodd e ddamwain arall ym mis Mai yn Giro d’Italia a gorfod rhoi gorau i’r ras.

Bydd ei absenoldeb yn ergyd i Froome sy’n ceisio ennill ei drydedd fuddugoliaeth o’r bron yn y Tour a’i bedwerydd teitl.

Ddydd Sul yn Velothon Cymru yng Nghaerdydd a’r cyffiniau roedd ‘na anogaeth i seiclwyr wisgo lliw melyn i gydnabod camp anhygoel Geraint Thomas i fod y Cymro cyntaf i wisgo’r crys melyn.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here