Protest
Image caption Protestwyr tu fas i safle’r cyngor ar Stryd Argyle, Doc Penfro

Mae degau o bobl wedi bod yn protestio tu fas i swyddfeydd Cyngor Sir Penfro yn Noc Penfro brynhawn Mercher.

Daw’r brotest wedi i’r heddlu gael eu galw i “helynt sylweddol” ym mhentref Cil-maen yn y sir nos Fawrth.

Mae’n debyg bod pobl leol yn credu bod troseddwr yn byw yn y pentref.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro ddydd Mercher eu bod “wedi cau’r swyddfa achos pryderon am ddiogelwch ein staff”.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Yr heddlu’n delio â digwyddiad Cil-maen (fideo gan y Pembrokeshire Herald)

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod swyddogion yn bresennol ar Stryd Argyle, Doc Penfro, ble mae’r dorf wedi dod at ei gilydd.

Mewn datganiad, dywedodd y llu bod y plismyn yn siarad â’r protestwyr ac yn trafod eu pryderon.

Yn ôl adroddiadau o’r safle, mae rhai yn y dorf dweud na fyddan nhw’n gadael nes eu bod yn cael “atebion”.

Image caption Daeth swyddogion yr heddlu at swyddfeydd Cyngor Sir Penfro

Fe gaeodd y cyngor y swyddfeydd yn gynnar am 15:00.

Yn gynharach, dywedodd yr heddlu bod torf wedi ymgasglu yng Nghil-maen tua 21:30 nos Fawrth wedi adroddiadau ar gyfryngau cymdeithasol.

Daeth digwyddiad nos Fawrth i ben ar ôl tua chwe awr wedi i’r heddlu orchymyn y dorf i wasgaru. Chafodd neb ei arestio.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here