Mohammed Haji SadiqImage copyright Wales News Service
Image caption Roedd Mohammed Haji Sadiq yn athro am 30 mlynedd

Mae athro 81 oed o Gaerdydd wedi ei ddedfrydu i 13 mlynedd o garchar am ymosodiadau rhyw ar bedair merch mewn mosg.

Roedd Mohammed Haji Sadiq wedi ymosod ar y plant wrth iddo gynnal gwersi astudio’r Coran.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei fod wedi “manteisio ar ei sefyllfa” ac roedd wedi cyffwrdd â’r merched yn amhriodol fel ffordd o ddisgyblu’r plant.

Cafwyd Sadiq yn euog o’r troseddau yn dilyn achos ym mis Mehefin.

Yn ôl y dystiolaeth roedd yn cam-drin y plant os oedden nhw’n gwneud camgymeriad wrth ddarllen y Coran.

Degawd o droseddu

Fe ddigwyddodd y troseddu dros gyfnod o ddegawd rhwng 1996 a 2006 yn Mosg Madina yn Ffordd Woodville, Caerdydd.

Clywodd y rheithgor yn ei achos fod Sadiq yn defnyddio ffon i daro’r plant, ac y byddai’n bygwth ei ddisgyblion ifanc.

Cafwyd y cyn-athro yn euog o 14 cyhuddiad o ymosodiadau rhyw ar blant ac yn ddieuog ar un cyhuddiad.

Bu Sadiq yn dysgu yn y mosg am 30 mlynedd hyd nes 2006 pan gaeodd yr adeilad yn dilyn tân.

Bydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes.

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here